Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Paul Davies yn arwain dadl y Senedd ar y sector Hosbisau a Gofal Lliniarol

  • Tweet
Dydd Gwener, 23 Ionawr, 2026
  • Newyddion Cynulliad
Paul

Mae Paul Davies, AS Preseli Sir Benfro, wedi arwain dadl ar bwysigrwydd sector hosbisau a gofal lliniarol Cymru; a galwodd am ddatblygu model cyllid cynaliadwy i gefnogi'r sector.

Tynnodd Mr Davies sylw at achos Shalom House, hosbis a oedd wedi'i leoli yn Nhyddewi cyn iddo gau ei ddrysau ym mis Hydref oherwydd pwysau ariannol. Dadleuodd Mr Davies y byddai model cyllid cynaliadwy yn darparu sefydlogrwydd i sector mewn argyfwng ac anogodd Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu'r sector cyn i fwy o hosbisau gael eu gorfodi i ystyried lleihau eu gwasanaethau neu gau eu drysau yn gyfan gwbl.

Manteisiodd hefyd ar y cyfle i dynnu sylw at y gofal rhagorol a ddarperir gan Sefydliad Paul Sartori, sydd wedi'i leoli yn Hwlffordd. Mae Sefydliad Paul Sartori yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau a therapïau, gan gynnwys Gwasanaeth Hosbis yn y Cartref drwy gydol y flwyddyn, gyda gwasanaeth ar alwad o fore gwyn tan nos.

Dywedodd Mr Davies, "Rwy'n ymrwymedig i wneud yr hyn a allaf i sicrhau bod llawer mwy o gydraddoldeb rhwng y gwasanaethau a ddarperir gan hosbisau a'r GIG, a chydnabyddiaeth gliriach o'r rôl hanfodol sydd ganddyn nhw o fewn y system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach."

"Rwy'n credu mai'r ffordd orau o ddiogelu'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu yn y gymuned yw trwy ddatblygu model cyllid cynaliadwy, parhaol ar gyfer y sector."

"Mae hosbisau yn ddarparwyr gofal lliniarol arbenigol, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn. Mae cleifion â salwch terfynol yn haeddu gwell, a’r darparwyr hefyd."

 

You may also be interested in

Paul

Paul Davies yn Galw ar Barclays i Ailagor Canghennau Banc Lleol

Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf, 2026
Mae Aelod o’r Senedd dros Geredigion Penfro, Paul Davies, wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Banc Barclays, Mr Vim Maru, yn annog y banc i ailagor canghennau yn yr ardal leol, gyda ffocws penodol ar Hwlffordd ac Aberystwyth.Cysylltodd Mr Davies â'r Prif Weithredwr ar ôl cael gwybod bod Barclays yn y

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol
  • Westminster News

Paul Davies Ceredigion Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Copyright 2026 Paul Davies . All rights reserved.
Powered by Bluetree