Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Paul Davies AS yn annog trigolion i ddweud eu dweud ar ymgynghoriad tirlenwi Withyhedge

  • Tweet
Dydd Gwener, 20 Mawrth, 2026
  • Newyddion Lleol
Paul

Mae Paul Davies AS yn annog trigolion ledled Sir Benfro i ddweud eu dweud wrth i ymgynghoriad cyhoeddus gael ei gynnal ar gynigion sy'n ymwneud â Safle Tirlenwi Withyhedge ger Hwlffordd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi agor ymgynghoriad ar yr amrywiad arfaethedig i’r drwydded, a gyflwynwyd gan Resources Management UK Ltd, gweithredwr y safle tirlenwi. Gallai'r cynnig ganiatáu i'r safle dderbyn gwastraff ychwanegol.

Mae'r ymgynghoriad yn gyfle i drigolion a rhanddeiliaid gyflwyno eu barn cyn i CNC wneud ei benderfyniad terfynol. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Iau 26 Mawrth.

Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys:

  • Lefelau adfer terfynol diwygiedig
  • Rhaglen rheoli a monitro wedi'i haddasu ar gyfer dŵr daear, dŵr wyneb a thrwytholch
  • Ychwanegu 50,000 tunnell o briddoedd gwastraff y flwyddyn ar gyfer gwaith adfer fel rhan o weithgaredd Adfer Gwastraff newydd
  • Cydgrynhoi a moderneiddio'r drwydded, gan gynnwys adolygiad o'r Amodau Gwella a’r Amodau Cyn-weithredol presennol

Dywed AS Preseli Sir Benfro ei bod yn hanfodol bod pobl leol yn manteisio ar y cyfle i rannu eu pryderon a'u profiadau fel rhan o'r broses ymgynghori.

Mae Mr Davies wedi codi pryderon yn y gorffennol am berfformiad amgylcheddol y safle, gan nodi mai'r gweithredwr oedd y gosodiad a ganiateir a berfformiodd waethaf yng Nghymru yn 2023 a 2024.

Mae hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi ei bryderon am y cynnig ac i ddadlau na ddylai Sir Benfro ddod yn fan i ddympio gwastraff.

Er mwyn sicrhau bod trigolion sy'n byw agosaf at y safle tirlenwi yn ymwybodol o'r ymgynghoriad, mae Mr Davies hefyd yn ysgrifennu'n uniongyrchol at aelwydydd yn y cymunedau cyfagos, gan eu hannog i gymryd rhan a lleisio’u barn cyn y dyddiad cau.

Meddai Paul Davies AS:

"Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle pwysig i drigolion ddatgan eu barn am ddyfodol safle tirlenwi Withyhedge."

"Cafwyd pryderon parhaus ynglŷn â pherfformiad amgylcheddol y safle a'i effaith ar gymunedau lleol, ac mae'n hanfodol bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn clywed yn uniongyrchol gan y bobl sy'n byw yn yr ardal."

"Rwyf wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth Cymru fy mod o’r farn y dylai'r safle fod yn edrych tuag at gau yn hytrach nag ehangu, ac na ddylai Sir Benfro ddod yn dir i ddympio gwastraff.

"Byddwn yn annog trigolion yn gryf i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a chyflwyno eu barn cyn y dyddiad cau."

Gall trigolion gyflwyno eu barn yn uniongyrchol i Cyfoeth Naturiol Cymru cyn i'r ymgynghoriad ddod i ben ddydd Iau 26 Mawrth. Bydd CNC yn ystyried pob ymateb cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cymeradwyo amrywiad i’r drwydded.

 

You may also be interested in

Paul

Paul Davies yn galw am weithredu ar TB buchol

Dydd Iau, 16 Gorffennaf, 2026
Mae AS Ceredigion Penfro, Paul Davies, wedi galw unwaith eto am gymryd camau i fynd i'r afael â TB buchol ledled Cymru. Siaradodd Mr Davies mewn dadl ar TB buchol yn y Senedd, gan dynnu sylw at yr effaith ddinistriol y mae'r clefyd yn parhau i'w chael ar deuluoedd ffermio a chymunedau gwledig.G

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol
  • Westminster News

Paul Davies Ceredigion Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Copyright 2026 Paul Davies . All rights reserved.
Powered by Bluetree