
Mae Paul Davies, Aelod o’r Senedd dros Sir Benfro, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi datganiad yn cadarnhau na fydd yn mabwysiadu argymhelliad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd i leihau nifer y da byw, fel modd o leihau allyriadau methan a rhyddhau tir ar gyfer creu coetiroedd ac adfer mawndiroedd.
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar sut y gall Cymru gyrraedd ei huchelgeisiau sero net drwy adroddiadau a chyhoeddi cyfres o gyllidebau carbon. Yn eu cyllideb carbon ddiweddaraf, maen nhw’n trafod yr angen i leihau niferoedd da byw.
Meddai Mr Davies, "Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatgan yn glir ei bod yn cefnogi ffermwyr Cymru drwy gyhoeddi datganiad cyhoeddus yn cadarnhau na fydd yn cyflwyno polisïau i leihau niferoedd da byw yng Nghymru. Mae angen i'r sector wybod, heb unrhyw amheuaeth, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermio da byw ac yn cydnabod ei bwysigrwydd i'n cymunedau gwledig.
"Mae ffermwyr Cymru wedi wynebu rhwystr ar ôl rhwystr gan lywodraethau olynol Cymru, ac maen nhw'n haeddu gwell. Mae ffermwyr wedi wynebu diffyg gweithredu gan y llywodraeth ar TB buchol a chynnydd mewn rheoleiddio yn ystod y blynyddoedd diwethaf a nawr gallai eu bywoliaeth fod mewn perygl eto."
"Rwy'n annog gwleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol i siarad nawr i gefnogi ein ffermwyr ac annog Llywodraeth Cymru i wrthod cyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd."