Skip to main content
Banner image for Paul Davies AS

Paul Davies AS

Preseli Penfro

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Senedd
  • Fy nhîm
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
  • Arolwg Covid-19

Neges o obaith yw neges y Nadolig.

  • Tweet
Dydd Mercher, 23 Rhagfyr, 2020

Ar ôl profiadau eleni, gwn y bydd gan lawer ohonom ddealltwriaeth newydd o'r gair hwnnw.

Y gobaith o ddod at ein gilydd, boed yn bersonol neu'n ddigidol, gyda theulu a ffrindiau i ddathlu'r hyn a ddylai fod yn adeg llawen o'r flwyddyn.

Y gobaith am ddyfodol gwell i ffrindiau a pherthnasau sydd wedi'u taro cymaint gan y pandemig, yn enwedig y rhai sydd wedi dioddef salwch neu sgileffeithiau economaidd dybryd y pandemig.

Y gobaith y gallwn barhau â'r ysbryd cymunedol cryfach i'r flwyddyn newydd, a fu o gymorth i aelodau mwyaf bregus ein cymunedau eleni.

I mi, mae'r Nadolig yn gyfle i gwrdd ag aelodau'r teulu a rhoi gwleidyddiaeth o'r neilltu. Gwn fod llawer ohonoch yn defnyddio'r adeg hon o'r flwyddyn i gnoi cil ar bethau. Eleni bydd llawer ohonoch yn cofio am anwyliaid a gollwyd, ac yn gorfod addasu i ffordd newydd o fyw hebddyn nhw. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â phawb sy'n mynd drwy'r fath drallod y Nadolig hwn. 

Mae'r Nadolig hefyd yn gyfle i ddiolch i'r rhai sydd wedi gofalu amdanom, ac wedi rhoi eraill o flaen nhw eu hunain. Diolch o galon i holl weithwyr ein gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen sydd wedi wynebu heriau'r flwyddyn ddiwethaf gyda dewrder, angerdd ac ymroddiad. 

Gyda'i gilydd mae staff anhygoel y gwasanaeth iechyd, gweithwyr gofal, personél y lluoedd arfog, staff y cyngor a'r fyddin o wirfoddolwyr wedi bod drwy gymaint mwy nag y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn gallu ei ddychmygu - mawr yw ein dyled iddynt.

Gobeithio y bydd cyfnod y Nadolig yn adfywio ein gobaith ac y gallwn, gyda'n gilydd, edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair.

Beth bynnag ddaw dros y Dolig, gobeithio y bydd yn un o obaith a llawenydd. Nadolig Llawen i chi i gyd.

  • Assembly News

You may also be interested in

Paul Davies yn cefnogi galwadau am i fwy o’r Lluoedd Arfog gefnogi’r gwaith o roi’r brechlynnau

Dydd Gwener, 15 Ionawr, 2021

Mae’r AS lleol Paul Davies yn cefnogi galwadau i fwy o’r Lluoedd Arfog gael eu defnyddio dan delerau Cymorth Milwrol i Awdurdodau Sifil er mwyn helpu gyda’r gwaith o rannu brechlyn Covid.

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol

Paul Davies AS Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Hyrwyddwyd gan Paul Davies AS, Senedd Cymru, Bae Caerdydd CF99 1SN.
Hawlfraint 2021 Paul Davies AS Preseli Penfro. Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree