
Mae Aelod o’r Senedd Sir Benfro, Paul Davies, wedi codi pryderon am yr ystadegau TB gwartheg diweddaraf a gyhoeddwyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU.
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 4,580 o wartheg wedi'u lladd yn 2024, cynnydd o 24.11% ar ffigur y flwyddyn flaenorol, sef 3,690.
Cyfanswm nifer y gwartheg a laddwyd yng Nghymru oedd 13,034.
Meddai Mr Davies, "Mae'r ystadegau TB gwartheg diweddaraf yn dangos bod mwy a mwy o wartheg yn cael eu lladd yn Sir Benfro ac mae'n achosi pryder enfawr."
"Mae'r ffigurau'n dangos nad yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â TB mewn gwartheg yn gweithio ac mae'n rhaid ystyried dull mwy holistaidd."
"Mae TB mewn gwartheg wedi bod yn gwmwl du dros ffermwyr yn Sir Benfro ers blynyddoedd, gyda’r gost economaidd ac emosiynol yn un enfawr."
"Ni all gwartheg barhau i gael eu lladd yn eu miloedd, nid yw'n gynaliadwy ac mae ffermwyr yn iawn i fod yn ddig am yr ystadegau diweddaraf hyn."