Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Mae Davies a Kurtz yn beirniadu'r pwysau cronnus sy'n wynebu sector twristiaeth Gorllewin Cymru.

  • Tweet
Dydd Gwener, 21 Tachwedd, 2025
  • Newyddion Lleol
Paul

Mae’r Aelodau o’r Senedd lleol, Paul Davies a Samuel Kurtz, wedi rhybuddio bod y diwydiant twristiaeth ledled y Gorllewin yn wynebu ei aeaf mwyaf heriol ers blynyddoedd, wrth i bwysau ariannol a rheoliadau newydd ddod ynghyd ar yr adeg waethaf bosibl.

Ochr yn ochr â chynlluniau Llywodraeth Lafur Cymru ar gyfer treth dwristiaeth a system gofrestru a thrwyddedu newydd ar gyfer llety gwyliau hunanddarpar, mae gweithredwyr twristiaeth yn y Gorllewin eisoes yn gorfod ymdopi â'r trothwy 182 noson ar gyfer y dreth gyngor, biliau cyflog uwch o ganlyniad i’r cynnydd diweddar yn yr isafswm cyflog, a chyfraniadau Yswiriant Gwladol uwch gan gyflogwyr.

Gyda'r tymor gwyliau bellach yn dod i ben, mae llawer o letyau gwely a brecwast arfordirol bach, bythynnod teuluol a hafanau gwledig, busnesau sy'n dibynnu'n helaeth ar haf llewyrchus, yn wynebu storm berffaith o gostau cynyddol a llai o ymwelwyr.

Mae cynrychiolwyr twristiaeth yn rhybuddio y gallai effaith gronnol y newidiadau hyn fod yn arbennig o niweidiol i Sir Benfro, lle mae'r economi ymwelwyr yn cynnal miloedd o swyddi ac yn cefnogi cymunedau o Ddinbych-y-pysgod i Dyddewi. Mae pryder cynyddol y gallai haenau ychwanegol o reoleiddio hefyd atal gwesteiwyr achlysurol a darparwyr llai sy'n hollbwysig yn ystod cyfnodau brig a digwyddiadau lleol mawr fel Ironman Cymru.

Meddai Paul Davies, AS Preseli Sir Benfro: "Mae busnesau twristiaeth yn y Gorllewin wedi bod yn glir am yr heriau maen nhw'n eu hwynebu ac eto, yn hytrach na darparu'r gefnogaeth i'r busnesau hyn, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan wedi cyflwyno mesurau sydd wedi rhoi pwysau pellach ar y sector."

"Rydw i wedi galw'n gyson ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n adeiladol â gweithredwyr twristiaeth ac i weithio ar y cyd ar atebion a fydd yn cefnogi busnesau twristiaeth lleol."

"Rhaid i Weinidogion wrando ar y rhai ar lawr gwlad, dileu rheoliadau diangen a darparu cymorth ymarferol sy'n sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y sector twristiaeth yng Nghymru."

Meddai Samuel Kurtz AS:

"Twristiaeth yw asgwrn cefn ein heconomi yn y Gorllewin, ac wrth i ni fynd i mewn i'r misoedd tawelach, bydd llawer o fusnesau lleol yn teimlo'r pwysau yn fwy nag erioed.

"Yn hytrach nag ychwanegu haenau o fiwrocratiaeth gostus, dylai Llywodraeth Cymru fod yn cefnogi gweithredwyr sydd eisoes yn brwydro yn erbyn y trothwy 182 noson, biliau cyflog uwch a chyfraniadau Yswiriant Gwladol uwch, yn ogystal â llai o ymwelwyr wrth i'r tymor ddod i ben.

"Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod bod effaith gronnol yr holl newidiadau hyn yn cael effaith ddinistriol ar y diwydiant twristiaeth, ac iddyn nhw oedi, gwrando ac ailystyried cyn i fusnesau mwy hirsefydlog fynd i’r wal."

 

You may also be interested in

Paul

Paul Davies yn cwrdd ag Openreach Cymru yn y Senedd i drafod cyflwyno Ffeibr Llawn

Dydd Iau, 21 Mai, 2026
Mae Paul Davies, AS Ceredigion Penfro, wedi cwrdd ag Openreach Cymru yn y Senedd i drafod y cynnydd o ran cyflwyno band eang ffeibr llawn ledled y Gorllewin, gan godi pryderon am gysylltedd mewn rhannau o'r rhanbarth.Ar hyn o bryd, Sir Benfro sydd â'r lefel isaf o gwmpas ffeibr llawn yng Nghymru, se

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol
  • Westminster News

Paul Davies Ceredigion Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Copyright 2026 Paul Davies . All rights reserved.
Powered by Bluetree