Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

"Mae amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys yn costio bywydau" meddai Davies a Kurtz

  • Tweet
Dydd Gwener, 28 Tachwedd, 2025
  • Newyddion Lleol
Paul

Mae’r Aelodau lleol o'r Senedd, Paul Davies a Samuel Kurtz, wedi cyhoeddi rhybudd ar y cyd am ddyfodol gofal brys yn Sir Benfro, gan bwysleisio pwysigrwydd hanfodol cynnal darpariaeth adran damweiniau ac achosion brys leol lawn yn Ysbyty Llwynhelyg yng ngoleuni dadansoddiad newydd brawychus gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM).

Mae ffigurau'r RCEM, sy'n dangos mwy na 900 o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag amseroedd aros hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru y llynedd, yn tanlinellu maint yr argyfwng gofal argyfwng a'r angen brys am weithredu. Mae eu canfyddiadau yn datgelu bod mwy o gleifion nag erioed yn aros dros 12 awr mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac oedi peryglus sy'n peryglu bywydau.

Mae'r ddau Aelod yn dweud bod y data yn atgyfnerthu'r achos dros ddiogelu a chryfhau'r gwasanaethau brys yn Llwynhelyg, gan nodi bod mynediad lleol at ofal amserol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn hanfodol i sir wledig fel Sir Benfro, lle gall amseroedd teithio i ysbytai pell beryglu bywydau.

Mae'r RCEM wedi galw ar bleidiau gwleidyddol i fynd ati cyn etholiadau'r Senedd i ymrwymo i fynd i'r afael â gorlenwi mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, gwella lefelau staffio, buddsoddi mewn systemau digidol a chynyddu tryloywder mewn data perfformiad. Mae'r gofynion hyn yn cyd-fynd yn agos ag ymrwymiadau hirsefydlog y Ceidwadwyr Cymreig i ddatgan argyfwng iechyd er mwyn sicrhau gwasanaethau brys diogel a hygyrch ledled Cymru.

Meddai Paul Davies AS: "Mae canfyddiadau'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn peri pryder mawr. Er gwaethaf addewidion i weithredu, mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni gwelliannau ystyrlon ac, o ganlyniad, mae llawer gormod o gleifion yn dal i aros yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys – a hyd yn oed yn waeth, mae rhai pobl yn marw'n ddiangen."

"Mae'r canfyddiadau hyn hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd hanfodol cadw gwasanaethau brys yn ein hysbytai lleol. Ni ddylid gorfodi pobl i deithio ymhellach am driniaeth frys. Mae ymgynghoriad diweddaraf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar wasanaethau clinigol yn cynnwys opsiynau a fyddai'n dileu darpariaeth Llawdriniaeth Gyffredinol Frys — symudiad a fyddai'n annerbyniol yn fy marn i. Rwy'n annog y Bwrdd Iechyd i gymryd y canfyddiadau hyn o ddifrif ac ymrwymo i ddiogelu gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg."

Ychwanegodd Samuel Kurtz AS: “Nid moethusrwydd i Sir Benfro yw adran damweiniau ac achosion brys priodol, mae'n achubiaeth. Mae'r RCEM yn glir: mae amseroedd aros hir yn peryglu bywydau, a byddai torri gofal argyfwng lleol yn rhoi ein cymunedau mewn mwy o berygl. Mae cleifion a staff yn haeddu gwell. Mae'r RCEM wedi nodi camau ymarferol y mae'n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru eu cymryd, ac rwy'n cefnogi'n llawn eu galwad am weithredu ar unwaith i fynd i'r afael â gorlenwi ac oedi peryglus.

Rhaid i Ysbyty Llwynhelyg fod yn ganolog i'r cynllun hwnnw. Mae cadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys llawn yma yn hanfodol i ddiogelu cleifion, cefnogi staff a sicrhau bod pobl yn Sir Benfro yn cael y gofal argyfwng sydd ei angen arnyn nhw pan fydd ei angen arnyn nhw."

 

 

You may also be interested in

Paul

Mae gwleidyddion Sir Benfro yn annog Llywodraeth Cymru i beidio ag anwybyddu porthladdoedd lleol

Dydd Mercher, 14 Ionawr, 2026
Mae Aelodau lleol o’r Senedd, Paul Davies AS a Samuel Kurtz AS, wedi mynegi rhwystredigaeth a phryder yn dilyn datganiad gan Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar Dasglu Môr Iwerddon, a fethodd â chyfeirio at ddau borthladd Sir Benfro.Sefydlwyd y Tasglu i gydlynu gwaith rhwng y llywodraetha

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol
  • Westminster News

Paul Davies Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Hawlfraint 2026 Paul Davies Preseli Penfro. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree