
Mae'r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, wedi cymryd rhan yn nhaith CPD Hwlffordd ar gyfer Her Prostate United. Cerddodd Mr Davies, a gafodd ddiagnosis o ganser y prostad yn 2022, ychydig dros 3 cilometr gyda chwaraewr tîm cyntaf ac Arweinydd Technegol Academi Hwlffordd, Dan Hawkins a buont yn siarad am bwysigrwydd Her Prostate United. Mae Her Prostate United yn annog clybiau pêl-droed a chefnogwyr i gerdded, rhedeg neu feicio bob dydd ym mis Hydref mewn ymdrech i godi arian ar gyfer Prostate Cancer UK.
Meddai Mr Davies, "Rwy'n ddiolchgar i Glwb Pêl-droed Hwlffordd am fy ngwahodd i ymuno â thaith Her Prostate United. Mae'n achos sy'n agos at fy nghalon ac rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gymryd rhan. Mae 1 o bob 8 dyn yn cael canser y prostad ac rwy'n un ohonyn nhw. Mae mentrau fel Her Prostate United yn ffordd wych o ddangos cefnogaeth i'r rhai sy'n byw gyda chanser y prostad ac yn helpu i godi arian mawr ei angen ar gyfer Prostate Cancer UK."
Ychwanegodd, "Roedd hefyd yn wych gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar y cae 3G, sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd ac rwy'n edrych ymlaen at weld gemau cartref yn dychwelyd i Stadiwm Ogi Bridge Meadow yn fuan."
I roi rhodd i Her Prostate United Clwb Pêl-droed Hwlffordd, ewch i - https://prostateunited.prostatecanceruk.org/fundraising/haverfordwest-county-afcs-prostate-united-challenge
I gael gwybod mwy am stori Prostate United, ewch i - https://prostateunited.prostatecanceruk.org/about