
Cafodd yr Aelod o’r Senedd Paul Davies gyfle i daro heibio menter Feed the Community yn 'Haverhub' Hwlffordd yn ddiweddar. Cefnogir Feed the Community gan Gyngor Tref Hwlffordd ac fe'i trefnir gan y Cynghorydd Randell Izaiah Thomas-Turner a'r Cynghorydd Dani Thomas-Turner. Mae'r prosiect, sy'n cael cefnogaeth sawl sefydliad lleol, yn gwahodd trigolion i'r Hwb am brydau twym am ddim ac i fwynhau gweithgareddau rhad ac am ddim hefyd.
Dywedodd Mr Davies, "Mae hon yn fenter wych, ac mae'n braf gweld y gymuned leol yn gweithio gyda'i gilydd i greu'r digwyddiadau cynhwysol a chroesawgar hyn.”
Ychwanegodd, "Mae'n ffordd wych i fusnesau ac elusennau lleol gynnwys trigolion ac adeiladu pontydd yn ein bro. Roedd yn ddigwyddiad poblogaidd iawn, ac roedd hi’n braf siarad â thrigolion, cynrychiolwyr busnes a gwirfoddolwyr. Roedd hi'n bleser gweld y cyfan â’m llygad fy hun a mwynhau’r awyrgylch cadarnhaol iawn.”