Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

AS lleol yn gwrthwynebu cardiau adnabod digidol

  • Tweet
Dydd Mercher, 1 Hydref, 2025
  • Newyddion Cynulliad
Paul

Mae'r Aelod o'r Senedd dros Breseli Sir Benfro, Paul Davies, wedi cadarnhau ei wrthwynebiad i gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cynllun cardiau adnabod digidol.

Yn ddiweddar, cadarnhaodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gynlluniau i gyflwyno cardiau adnabod digidol am ddim i'r rhai sy'n byw yn y DU, fel ffordd o reoli ac atal cyfleoedd gwaith i fewnfudwyr anghyfreithlon, sydd yn ei farn ef yn ffactor sylweddol sy'n annog pobl i groesi’r sianel mewn cychod bach.

Codwyd y pwnc hefyd yn y Senedd yr wythnos hon gan Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Cadarnhaodd y Prif Weinidog ei chefnogaeth i'r cynllun cardiau adnabod digidol, gan ddweud y byddai'n hoffi i'r cynllun fod yn ddwyieithog a chyda'r faner Gymreig yn rhan ohono.

Dywedodd Mr Davies, "Rwy'n gwrthwynebu'n llwyr y cynllun i gyflwyno cardiau adnabod digidol –grymuso unigolion yw rôl llywodraeth, nid cyflwyno cynlluniau sy’n rhoi mwy o reolaeth i’r wladwriaeth."

"Yn fy marn i, ni fydd y cynlluniau yn gwneud dim i atal mewnfudwyr anghyfreithlon rhag dod i mewn i'r DU – cynllun yw hwn i gymryd camau go iawn ar fewnfudo. Mae Llywodraeth y DU yn taflu llwch i’n llygaid ni."

"Credir hefyd y bydd y cynllun yn costio tua £20 biliwn o bunnoedd dros ddeng mlynedd - arian y dylid ei wario ar ein gwasanaethau cyhoeddus a'i fuddsoddi yn ein cymunedau."

You may also be interested in

Paul

Paul Davies yn cwrdd ag Openreach Cymru yn y Senedd i drafod cyflwyno Ffeibr Llawn

Dydd Iau, 21 Mai, 2026
Mae Paul Davies, AS Ceredigion Penfro, wedi cwrdd ag Openreach Cymru yn y Senedd i drafod y cynnydd o ran cyflwyno band eang ffeibr llawn ledled y Gorllewin, gan godi pryderon am gysylltedd mewn rhannau o'r rhanbarth.Ar hyn o bryd, Sir Benfro sydd â'r lefel isaf o gwmpas ffeibr llawn yng Nghymru, se

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol
  • Westminster News

Paul Davies Ceredigion Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Copyright 2026 Paul Davies . All rights reserved.
Powered by Bluetree