
Paul Davies AS yn cynnal lansiad gŵyl i hyrwyddo rhaglen fawr o gyngherddau i’r haf.
Lansiwyd Gŵyl Gerdd Abergwaun eleni yn swyddogol yn y Senedd yr wythnos hon (dydd Llun) mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan yr Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro, Paul Davies.
Cafodd y gwesteion a oedd yn bresennol glywed am y rhaglen o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ledled Sir Benfro rhwng 18 Gorffennaf a 31 Gorffennaf gan y cyfarwyddwr artistig, Gillian Green MBE. Bydd yr ŵyl yn cychwyn gyda chyngerdd gan Gerddorfa Opera Genedlaethol Cymru yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Meddai Mr Davies: "Anrhydedd o’r mwyaf oedd croesawu pawb i'r Senedd eto ar gyfer lansiad Gŵyl Gerdd Abergwaun eleni. Mae'r ŵyl wedi bod yn cael ei chynnal ers dros hanner can mlynedd ac wedi denu cerddorion o bob cwr o'r byd. Diolch i waith caled ac ymrwymiad tîm yr ŵyl mae Abergwaun wedi datblygu enw da fel cyrchfan cerddoriaeth ryngwladol. Mae'r ŵyl eleni yn argoeli’n un ardderchog a byddwn yn annog pawb i gymryd cip ar y rhaglen a gwneud yn siŵr eich bod yn archebu eich tocynnau yn gynnar!"
Ychwanegodd Gillian Green MBE: "Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Paul Davies AS am gynnal y digwyddiad hwn yn y Senedd unwaith eto ac am siarad mor frwd am yr ŵyl. Rwy'n gyffrous iawn am y rhaglen eleni - gobeithio y bydd yn dod â phobl o bell ac agos i Sir Benfro ac yn gyfle i bobl leol fwynhau cerddoriaeth o'r radd flaenaf."
Ymhlith yr artistiaid sy'n perfformio yn yr ŵyl eleni mae Mared Pugh-Evans (telynores swyddogol Ei Fawrhydi y Brenin), Pedwarawd Gitâr Aquarelle, Rebecca Evans CBE a thriawd Geoff Eales. Mae'r rhaglen lawn ar gael ar wefan yr ŵyl www.fishguardmusicfestival.com
Disgrifiad o'r llun: (O'r chwith i'r dde): Cyflwynydd y digwyddiad Dilwyn Young-Jones, Paul Davies AS, Geoff Eales, Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl Gillian Green MBE, y cerddorion Dunia Ershova (fiola) a Rosie Biss (sielo) a berfformiodd yn y digwyddiad.