Mae’r Aelodau lleol o’r Senedd, Paul Davies AS a Samuel Kurtz AS, yn galw am gyfeirio'r arian a arbedwyd o ddiddymu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn syth i fentrau plismona ac atal troseddu rheng flaen yn Sir Benfro ac ar draws y Gorllewin.
Gyda Llywodraeth y DU yn cadarnhau y bydd yn cael gwared ar Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu, bydd arbedion sylweddol yn cael eu rhyddhau o'r system lywodraethu bresennol. Mae'r ddau Aelod y Ceidwadwyr Cymreig o'r Senedd yn dadlau na ddylai'r arian hwn gael ei golli yng nghyllidebau gwladol San Steffan - ond yn hytrach y dylid ei sianelu i gymunedau sydd ei angen fwyaf.
Dywedodd Samuel Kurtz AS, "Mae diwedd system y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn golygu y bydd miliynau o bunnoedd yn cael eu rhyddhau. Rhaid gwario'r arian hwnnw lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf - yn uniongyrchol yn ein cymunedau. Yn y Gorllewin, mae angen mwy o blismyn ar y stryd, mae angen i ni roi hwb i adnoddau plismona lleol a darparu cymorth priodol i'r grwpiau sy'n gweithio'n galed i atal troseddu cyn iddo ddechrau.” Ychwanegodd, "Mae hyn yn ymddangos fel yr adeg berffaith i gryfhau ein tîm plismona er mwyn helpu trigolion i deimlo'n saff a diogel yn ein trefi a'n cymunedau gwledig.”
Tynnodd y ddau AS sylw at y pwysau sy'n wynebu ardaloedd gwledig, gan gynnwys lladradau fferm, troseddau peiriannau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a digwyddiadau sy'n gofyn am blismona arbenigol sy'n aml yn ymestyn dros ardal ddaearyddol fawr.
Dywedodd Paul Davies AS,“Mae troseddau gwledig yn taro cymunedau'n galed, ac eto maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu. P'un a yw'n dwyn da byw, fandaliaeth neu droseddau fferm penodol, mae'r effaith ar fywoliaeth yn real. Dylai'r arian a arbedwyd o ddiddymu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu gefnogi timau troseddau gwledig priodol, amseroedd ymateb gwell a mwy o amddiffyniad i'n trefi ac i gefn gwlad.”
Mae'r ddau Aelod yn galw am gyfeirio'r arbedion i bedair blaenoriaeth allweddol:
1. Plismona mwy gweladwy yn Sir Benfro a’r Gorllewin: Cynyddu nifer y plismyn ar y stryd - gwella hyder ac ymateb lleol, ac atal drwgweithredwyr.
2. Cryfhau timau troseddau gwledig: Buddsoddi mewn swyddogion ac offer arbenigol i fynd i'r afael â lladradau fferm, troseddau peiriannau, troseddau bywyd gwyllt ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghefn gwlad.
3. Cymorth i raglenni atal troseddau ar lawr gwlad: Cyllid ar gyfer mentrau lleol, elusennau a sefydliadau ieuenctid sy'n lleihau troseddu trwy ymwneud â phobl ifanc a chefnogi grwpiau agored i niwed.
4. Buddsoddi mewn gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ieuenctid: Creu cyfleoedd cadarnhaol i bobl ifanc, helpu i atal troseddu o'r dechrau trwy fynd i'r afael ag ynysu, diffyg cyfleusterau ac anfantais wledig.
Pwysleisiodd Kurtz a Davies fod rhaid i gymunedau yn Sir Benfro a’r Gorllewin deimlo buddion gwirioneddol o ddiwygiadau Prydeinig.
Meddai Samuel Kurtz AS i gloi, "Wrth gael gwared ar y Comisiynwyr, rhaid i hynny olygu mwy na chael gwared ar haen o lywodraethu yn unig. Mae'n rhaid iddo olygu buddsoddiad gwirioneddol mewn plismona lleol a chymunedau mwy diogel. Mae Sir Benfro a’r Gorllewin yn haeddu eu cyfran deg.”
Dywedodd Paul Davies AS: “Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i roi adnoddau yn y llefydd pwysicaf. Byddwn yn cyflwyno’r achos cryfaf posibl dros sicrhau nad yw'r Gymru wledig yn mynd yn angof."