Skip to main content
Banner image for Paul Davies AS

Paul Davies AS

Preseli Penfro

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Senedd
  • Fy nhîm
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
  • Arolwg Covid-19

Gwleidyddion yn gweithio i achub peiriant twll yn y wal yn Swyddfa’r Post Wdig

  • Tweet
Dydd Iau, 11 Chwefror, 2021

Mae ymgyrch i achub peiriant twll yn y wal yn Swyddfa’r Post Wdig yn cael ei chefnogi gan y gwleidyddion lleol, Paul Davies AS a Stephen Crabb Aelod Seneddol. Mae cynigion gan Swyddfa’r Post yn golygu y gallai tua 600 o beiriannau arian twll yn y wal gael eu colli ledled y wlad, yn cynnwys yn Wdig ac mae ymgyrchwyr yn awyddus i ddiogelu’r peiriant ar ôl i dri banc gau yn y gymuned leol dros y blynyddoedd diwethaf.

Meddai Mr Davies, “Mae clywed y gallai Wdig golli cyfleuster mynediad at arian gwerthfawr arall yn bryder mawr gan y bydd hyn cael effaith sylweddol ar y gymuned leol. Ar ôl cau tri o fanciau’r stryd fawr yn yr ardal mae cyfleusterau twll yn y wal yn bwysicach nag erioed. O ran gallu cael gafael ar wasanaethau, mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 yn dangos bod Wdig ymysg y 30-50% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Felly, mae’n rhaid gwneud pob ymdrech i ddiogelu’r peiriant ac fe fyddaf i’n gwneud popeth y gallaf, drwy godi hyn yn y Senedd a chyda Swyddfa’r Post yn uniongyrchol.”

Meddai Stephen Crabb: “Mae gallu cael gafael ar arian parod yn bwysig iawn i nifer o bobl ac er bod y pandemig wedi gwthio pobl tuag at daliadau digyffwrdd, mae pobl angen arian parod o hyd. Byddai cau peiriant twll yn y wal Wdig yn ergyd sylweddol i’r gymuned a busnesau’r stryd fawr.

“Rwyf wedi annog Prif Weithredwr Swyddfa’r Post i wyrdroi’r penderfyniad annoeth hwn i sicrhau bod pobl Wdig yn dal i allu cael gafael ar eu harian.”

Dywedodd Mr John Moverley, sy’n rhedeg Swyddfa’r Post yn Wdig, “Rwy’n ddiolchgar i Paul a Stephen am eu hymdrechion i helpu i gadw'r peiriant twll yn y wal. Mae peiriant arian parod yn hanfodol i’n busnes gan fod cwsmeriaid angen cael gafael ar arian yn gyflym heb orfod ciwio y tu ôl i gwsmeriaid eraill sy’n postio parseli ac yn gwneud trafodiadau eraill. Rydym hefyd yn cefnogi busnesau lleol ar y Stryd Fawr ac yn ymfalchïo mewn cefnogi trigolion agored i niwed yn y gymuned. Yn drist, gallai cael gwared ar y peiriant twll yn y wal gael effaith ddifrifol ar ein hyfywedd ac arwain at gau’r swyddfa post yn gyfan gwbl felly rwy’n gobeithio y bydd Swyddfa’r Post yn gweld synnwyr ac yn caniatáu i ni gadw’r cyfleuster gwerthfawr hwn.”

  • Newyddion Lleol

You may also be interested in

Gwleidyddion Lleol yn Croesawu Tro Pedol Peiriant ATM Swyddfa’r Post Wdig

Dydd Gwener, 26 Chwefror, 2021

Mae gwleidyddion o Sir Benfro, Paul Davies a Stephen Crabb, wedi croesawu’r newyddion y bydd Swyddfa’r Post Wdig yn cadw ei chyfleuster ATM.

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol

Paul Davies AS Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Hyrwyddwyd gan Paul Davies AS, Senedd Cymru, Bae Caerdydd CF99 1SN.
Hawlfraint 2021 Paul Davies AS Preseli Penfro. Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree