Skip to main content
Banner image for

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH

Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth Sir Benfro yn cael clonc gyda Paul Davies

  • Tweet
Dydd Gwener, 22 Hydref, 2021

Yn ddiweddar, cyfarfu cynrychiolwyr lleol Cyngor ar Bopeth Sir Benfro gyda’r Aelod o’r Senedd Paul Davies. Mae Cyngor ar Bopeth Sir Benfro yn elusen annibynnol nid-er-elw sy’n helpu i ddarparu cymorth am ddim cyfrinachol a diduedd i bobl ledled y wlad. Yn ddiweddar mae’r elusen wedi symud i swyddfeydd newydd yn 36-38 Stryd Fawr Hwlffordd ac yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor ar y ffôn, dros e-bost a chyswllt fideo.

Meddai Mr Davies, “Mae wastad yn bleser o’r mwyaf dal i fyny gyda’r tîm yng Nghyngor ar Bopeth Sir Benfro. Maen nhw’n gwneud gwaith mor wych yn cefnogi pobl ledled Sir Benfro gan sicrhau bod ganddyn nhw’r wybodaeth a’r cyngor cywir sydd eu hangen arnyn nhw. Gallant ddarparu cymorth ar faterion fel cyngor ar ddyledion, y credyd cynhwysol a hyd yn oed gwybodaeth a all eich helpu i arbed arian ar eich biliau ynni, felly cysylltwch â’r tîm os oes angen cymorth arnoch chi gyda rhywbeth. Mae’r tîm wedi bod mor gadarn yn ystod y pandemig a hyd yn oed wedi llwyddo i symud i safle newydd eleni - felly cymerwch funud neu ddau i ymgyfarwyddo â’u swyddfa newydd a’r gwaith maen nhw’n ei wneud, drwy fwrw golwg ar eu gwefan: https://www.pembscab.org/.”

  • Newyddion Lleol

You may also be interested in

Paul Davies MS

Paul yn Dod yn Arwr Gwyrddlas ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofari

Dydd Mawrth, 29 Mawrth, 2022

Mae’r Aelod o’r Senedd dros Breseli Penfro, Paul Davies, wedi dangos ei gefnogaeth i fenywod â chanser yr ofari ar draws y rhanbarth mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd ar 23 Mawrth.

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol

Paul Davies Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2022 Paul Davies Preseli Penfro. Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree