Mae Paul Davies, yr Aelod o'r Senedd lleol, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r sefyllfa ar unwaith ar gynllunio datblygiadau o fewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), yn dilyn pryder cynyddol ymhlith busnesau lleol yn y Gorllewin.
Mae awdurdodau cynllunio lleol yn mabwysiadu dull rhagofalus o ymdrin â cheisiadau, yn dilyn llythyr y maen nhw wedi'i dderbyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae'r dull hwn yn cael ei fabwysiadu er gwaethaf absenoldeb unrhyw ganllawiau cynllunio cyhoeddedig ffurfiol. O ganlyniad, ni fydd unrhyw gais cynllunio sy'n dangos dŵr ffo posibl i Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yn cael ei benderfynu tan y bydd CNC wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru. Mae hyn wedi arwain at ddryswch ac oedi, er bod datblygiadau wedi'u cymeradwyo o'r blaen o dan brotocolau presennol CNC.
Meddai Dirprwy Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mr Davies: "Mae'r ansicrwydd hwn yn cael effaith ddifrifol yn y Gorllewin. Mae busnesau lleol yn wynebu ansicrwydd ac oedi a allai fygwth swyddi a buddsoddiad. Ni allwn fforddio gadael i awdurdodau cynllunio gael eu parlysu gan ddiffyg cyfeiriad clir."
"Rydw i wedi codi'r mater hwn yn y Senedd ac wedi galw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru i egluro'r sefyllfa a sicrhau bod CNC yn darparu canllawiau wedi'u diweddaru i awdurdodau cynllunio. Mae angen i ni weld gweithredu chwim, oherwydd hebddo, bydd datblygiadau'n cael eu hatal, bydd busnesau’n dioddef, a gallai swyddi fod mewn perygl."