Mae Abergwaun, Wdig a chymunedau ar draws gogledd Sir Benfro yn cael eu hannog i gefnogi ymgyrch dros gae chwaraeon pob tywydd 4G modern, dan arweiniad yr Aelodau o’r Senedd lleol, Paul Davies a Samuel Kurtz.
Byddai'r prosiect yn darparu cyfleuster dibynadwy o ansawdd uchel i glybiau, ysgolion a phobl ifanc y gellid ei ddefnyddio drwy’r flwyddyn. Yn addas ar gyfer pêl-droed a rygbi, o blant iau i bobl hŷn, byddai’r cae 4G hefyd yn ategu'r cae artiffisial presennol yn Ysgol Bro Gwaun, cartref clwb hoci llwyddiannus yr efeilldref.
Mae timau lleol yn dweud bod gemau a sesiynau ymarfer yn cael eu canslo'n rheolaidd oherwydd caeau dwrlawn, gan gyfyngu ar gyfleoedd i chwaraewyr a lleihau gweithgarwch chwaraeon ar draws y gymuned.
Meddai Paul Davies AS: "Byddai cae 4G yn hwb mawr i'n pobl ifanc a'n clybiau lleol. Byddai'n gwella cyfleoedd chwaraeon ac yn cryfhau balchder ac ysbryd cymunedol ar draws gogledd Sir Benfro."
Ychwanegodd Samuel Kurtz AS:"Gyda'r tywydd fel y mae, mae gormod o gemau yn cael eu gohirio oherwydd caeau dwrlawn. Byddai cae 4G yn darparu mynediad cyson i glybiau, ysgolion a thimau ieuenctid drwy’r flwyddyn, a gallai hefyd helpu Abergwaun i ddenu twrnameintiau ac ymwelwyr, gan arwain at fanteision economaidd ehangach."
Mae’r Aelodau o'r Senedd yn dweud y byddai'r cae yn fuddsoddiad mewn iechyd, lles a datblygiad ieuenctid, ac maen nhw'n annog trigolion i ddangos eu cefnogaeth i helpu i gryfhau'r achos dros gyllid.
Ychwanegodd Paul Davies: "Mae angen cymaint o bobl â phosibl arnom i gefnogi’r ymgyrch hon. Mae pob llofnod yn helpu i ddangos cryfder y gefnogaeth leol a'r angen am y cyfleuster hwn yn Abergwaun."
Gall trigolion gefnogi'r ymgyrch drwy gofrestru ar y wefan – Cefnogwch ein Hymgyrch i gael Cae 4G ar gyfer Abergwaun ac Wdig | Sir Benfro a Cheredigion cyn 20 Mawrth.