
Mae’r Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro, Paul Davies, wedi croesawu'r newyddion bod Stena Line yn bwriadu buddsoddi £20 miliwn i uwchraddio porthladd Abergwaun.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cysylltiad neu ‘linkspan’ newydd, sef math o bont sy'n caniatáu i longau symud ar ac oddi ar longau fferi. Byddai'r cysylltiad newydd yn fwy a gallai ddelio â llongau fferi o unrhyw faint. Credir y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn 2026, gyda'r ‘linkspan’ i’w roi ar waith o 2027 ymlaen.
Meddai Mr Davies, "Rwy'n falch iawn bod Stena Line yn gwneud buddsoddiad sylweddol yn seilwaith y porthladd. Mae'n ymrwymiad cadarn gan Stena Line a fydd yn sicrhau'r porthladd am flynyddoedd i ddod."
"Bydd uwchraddio seilwaith yn galluogi llongau fferi mwy i angori yma a gallai hynny arwain at fwy o gyfleoedd i'r economi leol."
"Rwy'n sobor o falch o’r buddsoddiad hwn ac edrychaf ymlaen at weld y datblygiad yn mynd rhagddo."