Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Angen Gweithredu ar Frys ynghylch Rhestrau Aros Gofal Llygaid

  • Tweet
Dydd Mawrth, 1 Hydref, 2024
  • Newyddion Lleol
Paul

Mae'r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, wedi galw am weithredu ar frys ynghylch ystadegau sy'n dangos bod 63.3% o'r llwybrau cleifion a aseswyd fel rhai sydd â'r risg uchaf o niwed na ellir ei wrthdroi yn disgwyl y tu hwnt i'w dyddiad targed ar gyfer triniaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru’n dangos bod 11,295 o gleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn wynebu'r risg uchaf o niwed na ellir ei wrthdroi yn sgil disgwyl y tu hwnt i'w dyddiad targed am driniaeth. 

Meddai Mr Davies, “Mae'r ystadegau hyn yn hynod frawychus ac wrth eu gwraidd mae miloedd o bobl sy'n byw yn y Gorllewin sydd mewn perygl o golli golwg na ellir ei wrthdroi oherwydd eu bod yn disgwyl yn rhy hir am eu hapwyntiadau. Nid yn unig fod llawer o'r cleifion hyn mewn poen ac anghysur, ond mae rhai wedi colli swyddi oherwydd bod eu golwg yn dirywio hefyd.

“Mae angen gweithredu ar frys ac rwy'n pwyso ar Lywodraeth Cymru i gymeradwyo'r Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg a blaenoriaethu ei gweithredu. Mae gwasanaethau gofal llygaid yn dal i fod dan bwysau enfawr, mae ei seilwaith yn gofyn am fuddsoddiad sylweddol ac mae yna broblemau recriwtio a chadw difrifol. Felly, mae'n hanfodol bod hyn yn cael ei flaenoriaethu ar unwaith – gan fod pob mis sy'n mynd heibio heb ymrwymiad i wella gofal llygaid yn arwain at ychwanegu mwy a mwy o bobl at restrau aros.”

Mae rhagor o wybodaeth yn:

Ystadegau Llywodraeth Cymru ar aros am ofal llygaid - Cleifion sy’n aros am apwyntiadau offthalmoleg cleifion allanol

RNIB Cymru - 04_A4_Priorities_for_Health_Social_Care_Eng.pdf (rnib.org.uk)

 

You may also be interested in

Paul

Paul Davies yn mynychu agoriad mawreddog The Dizzy Bear

Dydd Gwener, 30 Mai, 2025
Mynychodd yr Aelod o'r Senedd Paul Davies agoriad mawreddog 'The Dizzy Bear', tŷ coffi cymunedol a menter gymdeithasol ym marina Aberdaugleddau. Mae tŷ coffi The Dizzy Bear wedi'i sefydlu gan yr elusen iechyd meddwl leol, Sefydliad Megan's Starr, i gefnogi'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn eu can

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol

Paul Davies Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Hawlfraint 2025 Paul Davies Preseli Penfro. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree