Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Aelodau o’r Senedd Sir Benfro yn cefnogi Bore Coffi Macmillan yn y Senedd

  • Tweet
Dydd Gwener, 3 Hydref, 2025
  • Newyddion Cynulliad
Paul

Mae’r Aelodau o’r Senedd lleol, Paul Davies a Samuel Kurtz, wedi dangos eu cefnogaeth i bobl sy'n byw gyda chanser drwy fynychu digwyddiad blynyddol Bore Coffi Macmillan yn y Senedd yr wythnos diwethaf.

Roedd y digwyddiad, a ddaeth ag ASau o bob cwr o Gymru at ei gilydd, yn tynnu sylw at y gwaith anhygoel mae Cymorth Canser Macmillan yn ei wneud i helpu pobl sy'n byw gyda chanser a'u teuluoedd. Mae Boreau Coffi Macmillan, a gynhelir mewn cymunedau ledled y DU, yn ffordd hanfodol o godi ymwybyddiaeth a chodi arian i sicrhau bod y rhai sy’n cael eu heffeithio gan ganser yn cael y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

Canmolodd y ddau Aelod waith yr elusen a haelioni pobl Sir Benfro sy'n parhau i gefnogi ymdrechion codi arian flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Samuel Kurtz:
"Roedd hi’n wych mynychu Bore Coffi Macmillan yn y Senedd a dangos fy nghefnogaeth i'r gwaith rhagorol mae Macmillan yn ei wneud ledled y Gorllewin.

"Mae gan gymaint ohonom ni ffrindiau, aelodau o'r teulu neu gymdogion sydd wedi’u heffeithio gan ganser, ac mae'r gefnogaeth mae Macmillan yn ei darparu yn gwneud byd o wahaniaeth wrth helpu pobl drwy gyfnodau anhygoel o anodd.

"Hoffwn dalu teyrnged i'r holl wirfoddolwyr lleol a’r rhai sy’n codi arian sy'n rhoi o’u hamser a'u hegni i gefnogi Macmillan. Mae pob cacen a bobwyd, pob punt a godwyd, yn gwneud cyfraniad mawr at sicrhau nad yw pobl sy'n byw gyda chanser yn ei wynebu ar eu pennau eu hunain."

Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Paul Davies:

"Mae Macmillan yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi cleifion canser drwy gydol eu taith, ac roeddwn i'n falch o ddangos fy nghefnogaeth drwy fynychu eu bore coffi yn y Senedd.

"Fel rhywun sy'n byw gyda chanser, rwy'n ymwybodol iawn o'r heriau mae rhai pobl yn eu hwynebu. Mae Macmillan yn cynnig help, cefnogaeth a chyngor ymarferol, fel y gall pobl fyw bywydau mor llawn â phosibl.

"Mae pob paned yn bwysig - drwy gynnal digwyddiadau hwyliog, mae pobl yn dod at ei gilydd, ond mae arian hollbwysig yn cael ei godi hefyd fel y gall Macmillan barhau i gynnig cefnogaeth i'r rhai sydd ei hangen."

You may also be interested in

Paul

Paul Davies AS yn annog trigolion i ddweud eu dweud ar ymgynghoriad tirlenwi Withyhedge

Dydd Gwener, 20 Mawrth, 2026
Mae Paul Davies AS yn annog trigolion ledled Sir Benfro i ddweud eu dweud wrth i ymgynghoriad cyhoeddus gael ei gynnal ar gynigion sy'n ymwneud â Safle Tirlenwi Withyhedge ger Hwlffordd.Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi agor ymgynghoriad ar yr amrywiad arfaethedig i’r drwydded, a gyflwynwyd gan

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol
  • Westminster News

Paul Davies Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Copyright 2026 Paul Davies . All rights reserved.
Powered by Bluetree