Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Aelodau o’r Senedd Gorllewin Cymru yn beirniadu Cyllideb yr Hydref fel "hunllef cyn y Nadolig"

  • Tweet
Dydd Mercher, 26 Tachwedd, 2025
  • Westminster News
Paul

Mae’r Aelodau lleol o’r Senedd, Paul Davies a Samuel Kurtz, wedi mynegi pryder mawr am Gyllideb yr Hydref sy'n cael ei chyflwyno heddiw gan y Canghellor Rachel Reeves, gan rybuddio nad yw'n cynnig fawr o sicrwydd na chefnogaeth i bobl a busnesau’r Gorllewin.

Maen nhw'n dadlau bod sectorau allweddol fel lletygarwch a thwristiaeth, sy'n ffurfio asgwrn cefn yr economi ranbarthol, wedi cael eu hanwybyddu unwaith eto. Mae llawer o gyflogwyr lleol eisoes mewn dyfroedd dyfnion yn dilyn y cynnydd diweddar yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr, ac maen nhw nawr yn wynebu pwysau pellach gyda’r isafswm cyflog yn codi am yr ail waith eleni, gan gynnwys cynnydd sylweddol o 8.5% ar gyfer pobl ifanc 18-20 oed, sef grŵp a gynrychiolir yn helaeth yn y ddau ddiwydiant.

Bydd teuluoedd ffermio hefyd yn ddig o ystyried bod Llywodraeth Lafur y DU wedi gwrthod gwrthdroi'r dreth fferm deuluol niweidiol.

Daw'r pwysau ar adeg pan fydd baich treth cyffredinol y DU yn codi'n sydyn, gyda'r Gyllideb heddiw yn cadarnhau £26 biliwn mewn trethi ychwanegol erbyn 2029, a rhagwelir y bydd y baich treth yn cyrraedd ei lefel uchaf erioed, sef 38% o gynnyrch domestig gros erbyn 2030–31. Bydd y ffaith bod trothwyon treth incwm yn cael eu rhewi am dair blynedd arall, gan godi tua £8.3 biliwn, hefyd yn golygu gwasgfa ymhellach ar deuluoedd sy'n gweithio ledled y Gorllewin sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau cynyddol.

Mae'r ddau Aelod yn mynnu bod rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod yr heriau unigryw sy'n wynebu economïau gwledig, lle mae gweithluoedd tymhorol ac ymylon gweithredu cyfyngedig yn golygu y gall hyd yn oed newidiadau polisi bach arwain at ganlyniadau eithriadol.

Ar ôl y gyllideb, dywedodd Mr Davies:

"Mae cyllideb y Canghellor yn drychinebus i’r bobl sy'n gweithio yn Sir Benfro. Yn hytrach na chynnig cefnogaeth i weithwyr a buddsoddi mewn mesurau i hybu cynhyrchiant, mae'n pentyrru codiadau treth sy'n cosbi gweithwyr ac yn cymryd mwy o'r arian maen nhw’n gweithio mor galed i’w ennill."

"Yr hyn sydd ei angen arnom yw toriadau treth go iawn, rheolaeth dynnach ar wariant cyhoeddus a chynllun beiddgar i roi hwb i'n heconomi - ac eto mae Llywodraeth Lafur y DU wedi dangos ei gwir liwiau unwaith eto - yn codi trethi, yn dwyn pensiynau a chynilion ac yn cymryd mwy gan drethdalwyr sydd eisoes wedi'u hymestyn i'r eithaf."

Meddai Mr Kurtz hefyd: "Mae Rachel Reeves wedi cyflwyno hunllef cyn y Nadolig gyda’i Chyllideb sy'n codi trethi, gan fethu'n llwyr â chydnabod realiti rhedeg busnes yn y Gorllewin. Ein sectorau lletygarwch a thwristiaeth yw asgwrn cefn yr economi leol, ond byddan nhw’n gorfod talu costau uwch, a hynny heb unrhyw gefnogaeth. Yn y cyfamser, mae'r gwrthodiad i newid cyfeiriad ar y dreth fferm deuluol yn dangos bod Llafur yn barod i aberthu amaethyddiaeth trwy dorri ei haddewid cyn yr etholiad.

"Mae cyflogwyr yma eisoes wedi'u hymestyn i'r eithaf, ac rwy'n ofni y bydd y Gyllideb hon yn arwain at gau busnesau a cholli swyddi ar draws ardaloedd gwledig ac arfordirol y Gorllewin, yn hytrach na helpu ein cymunedau i ffynnu. Mae ein rhanbarth yn haeddu gwell."

 

 

You may also be interested in

Paul

Paul Davies AS yn annog trigolion i ddweud eu dweud ar ymgynghoriad tirlenwi Withyhedge

Dydd Gwener, 20 Mawrth, 2026
Mae Paul Davies AS yn annog trigolion ledled Sir Benfro i ddweud eu dweud wrth i ymgynghoriad cyhoeddus gael ei gynnal ar gynigion sy'n ymwneud â Safle Tirlenwi Withyhedge ger Hwlffordd.Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi agor ymgynghoriad ar yr amrywiad arfaethedig i’r drwydded, a gyflwynwyd gan

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol
  • Westminster News

Paul Davies Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Copyright 2026 Paul Davies . All rights reserved.
Powered by Bluetree