Mae'r Aelod o'r Senedd lleol, Paul Davies, wedi ymweld â RWE yn ddiweddar i ddysgu mwy am waith y cwmni a’i brosiectau a chlywed am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Ymwelodd Mr Davies â Gorsaf Bŵer RWE ym Mhenfro, sy'n un o'r gorsafoedd pŵer nwy mwyaf ac yn un o'r gorsafoedd pŵer nwy mwyaf effeithlon yn y DU, sy'n pweru 3.5 miliwn o gartrefi.
Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu Mr Davies â chynrychiolwyr o RWE, gan gynnwys Nikolaus Valerius, Prif Swyddog Gweithredol RWE Generation SE, i drafod rhywfaint o'r gwaith y mae'r cwmni yn ei wneud ar hyn o bryd a'i waith i gefnogi busnesau lleol a'r gymuned leol.
Meddai Mr Davies: "Mae RWE yn gyflogwr mawr yn y Gorllewin ac mae'n gwneud cyfraniad enfawr at anghenion ynni Cymru ac felly mae bob amser yn wych cael y wybodaeth ddiweddaraf gan y tîm a dysgu mwy am y gwaith sy'n cael ei wneud yma yn Sir Benfro ar hyn o bryd."
"Cawsom drafodaeth dda iawn am gynlluniau RWE ar gyfer y dyfodol a'i fuddsoddiad yn yr orsaf bŵer - fel y cyddwysydd cydamserol newydd sy'n cefnogi sefydlogrwydd y grid. Mae buddsoddiad o’r fath yn y safle yn darparu swyddi a chyfleoedd economaidd yn yr ardal."
"Fe wnaethom ni hefyd drafod buddsoddiad RWE yn y gymuned a'r gwaith y mae'n ei wneud i gefnogi sefydliadau a busnesau lleol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r cwmni wrth iddo barhau i fuddsoddi yn ei safle yn Sir Benfro."