Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Aelod o'r Senedd lleol yn croesawu oedi i gynllun ail-alinio ffyrdd y cyngor

  • Tweet
Dydd Mercher, 11 Chwefror, 2026
  • Newyddion Lleol
Paul

Mae'r Aelod o'r Senedd lleol, Paul Davies, wedi croesawu penderfyniad Cabinet Cyngor Sir Penfro i oedi ei gynllun arfaethedig i ail-alinio ffyrdd yn Niwgwl.

Dywedodd Mr Davies, sydd wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol ar gynnig amgen sy'n fwy fforddiadwy ac yn fwy sensitif i'r amgylchedd, ei fod yn falch bod y Cabinet wedi atal ei gynlluniau costus ac anogodd yr awdurdod i roi ystyriaeth lawn i'r cynllun cymunedol.

Meddai Mr Davies: "Mae erydiad arfordirol yn Niwgwl wedi bod yn broblem ers cyn cof, ac mae'n hanfodol bod unrhyw ymateb yn effeithiol ac yn gymesur. Mae'r gymuned wedi datblygu ei Chynllun Mynediad i’r Traeth ac Ailalinio Marian Niwgwl ei hun sy'n cynnig dull llai ymledol a fyddai'n lleihau costau i'r Cyngor a threthdalwyr lleol yn sylweddol."

"Mae Cabinet Cyngor Sir Penfro yn iawn i atal ei gynllun ei hun rhag mynd yn ei flaen ac rwy'n awr yn annog y Cyngor i ystyried cynnig y gymuned, sy'n sicrhau cydbwysedd llawer gwell rhwng diogelu'r amgylchedd, cyfrifoldeb ariannol ac anghenion trigolion lleol."

You may also be interested in

Paul

Paul Davies yn Galw ar Barclays i Ailagor Canghennau Banc Lleol

Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf, 2026
Mae Aelod o’r Senedd dros Geredigion Penfro, Paul Davies, wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Banc Barclays, Mr Vim Maru, yn annog y banc i ailagor canghennau yn yr ardal leol, gyda ffocws penodol ar Hwlffordd ac Aberystwyth.Cysylltodd Mr Davies â'r Prif Weithredwr ar ôl cael gwybod bod Barclays yn y

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol
  • Westminster News

Paul Davies Ceredigion Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Copyright 2026 Paul Davies . All rights reserved.
Powered by Bluetree